How to contribute/cy
Ewch ati!
Ydych chi'n angerddol am ryddid meddalwedd a chymunedau cod agored? Ydych chi'n hoff o feddalwedd MediaWiki, Wikipedia neu unrhyw safleodd Wikimedia eraill?
Yna, rhannwch eich sgiliau yma a dysgu gan gyfranwyr eraill. Bydd y dudalen hon yn eich helpu i ddechrau drwy ddarparu trosolwg o feysydd lle gallwch gymryd rhan.Mae prosiectau Wikimedia yn defnyddio ieithoedd amrywiol megis PHP a JavaScript yn MediaWiki a'i estyniadau, Lua (mewn Templedi), CSS/LESS (mewn crwyn ac yn y blaen), Objective-C, Swing a Java (mewn Apiau Symudol ac yn Kiwix), Python (yn Pywikibot) neu C++ (yn Huggle) neu C# (yn AWB). Crëwch fotiau i brosesu cynnwys a chadwch eich offer ar Toolforge. Haciwch ar apiau symudol neu ar raglenni i'r bwrdd gwaith. Neu helpwch Peiriannu Dibynadwyedd y Safle i gynnal ffurfweddiad y gweinydd.
Learn more at New Developers/Introduction to the Wikimedia Technical Ecosystem .
Mwy o wybodaeth ddefnyddiol
Cyfathrebu
- Mae sawl ffordd y gallwch chi gysylltu â chymuned Wicimedia.
- Gallwch ddilyn a rhannu newyddion Wikimedia ar eich rhwydwaith cyfryngau cymdeithasol hefyd.
- Gallwch danysgrifio i Newyddion Technoleg er mwyn derbyn crynodeb wythnosol ar eich tudalen defnyddiwr o newidiadau i'r feddalwedd heb jargon technegol.
Golygu a thrafod ym MediaWiki
Os ydych chi heb ddefnyddio MediaWiki o'r blaen:
- Cofrestrwch eich cyfrif defnyddiwr ar mediawiki.org.
- Dysgwch sut i olygu tudalennau wici gyda VisualEditor neu drwy olygu'r ffynhonnell.
- Cewch chi olgygu eich tudalen ddefnyddiwr gyhoeddus fel y mynnoch. Cyflwynwch eich hun. Gallwch ddefnyddio'r Templed Gwybodaeth i Ddefnyddwyr. Dysgwch fwy drwy ddarllen cyfarwyddiadau Wikipedia.
- Gwiriwch Cymorth: Llywio .
- Gallwch drafod cynnwys pob tudalen a'i thudalen Drafod gysylltiedig. Gallwch chi gyfathrebu â defnyddiwyr drwy ychwanegu neges gyhoeddus yn eu tudalennau trafod nhw. Dysgwch ragor yn Help:Talk pages .